#

 

 

 


Rhif y ddeiseb: P-05-0749

Teitl y ddeiseb: Adfer Gwasanaeth Deintyddol Symudol Corwen

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sicrhau bod arian ar gael i adfer y gwasanaeth deintyddol symudol yn ardal Bala-Wrecsam ac iddo barhau fel gwasanaeth pwysig i iechyd plant yr ardal yn y dyfodol.

Gwybodaeth ychwanegol: Rydym am ddechrau deiseb gan obeithio y cawn fan ddeintyddol newydd i ddod i'n hysgol i'n helpu ni i edrych ar ôl ein dannedd, fel o'r blaen. Rydym eisoes wedi colli ein bws ysgol ac rydym yn teimlo ein bod yn colli llawer o'r gymuned ac y bydd hyn yn cael effaith fawr ar ein dyfodol.                                                                                   


Y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb

Mae ar ddeall bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau deintyddol yng ngogledd Cymru, bellach wedi cytuno i adfer yr uned ddeintyddol symudol cyn gynted â phosibl. Mewn llythyr at Llyr Gruffydd AC (a oedd wedi ymgyrchu ar ran y deisebwyr), dywedodd Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd:

I was pleased to learn that the pupils of Ysgol Cae’r Drewyn, Corwen appreciate the service and I can understand their concern regarding the disruption to the service they normally receive. I hope the ongoing input from the Designed to Smile team, which will continue with its scheduled input in the area, will be welcomed.

We have now set out a specification for a replacement unit and will be commencing procurement imminently. The lead in time for the delivery of the new unit is not known at this point as the product is bespoke and this will therefore depend upon production timescales with the selected manufacturer. We will, however be emphasising the need to have the new unit in place at the earliest opportunity. We will finance the purchased of this unit from within the Board’s capital programme for the year ahead.

Roedd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i’r Pwyllgor Deisebau yn nodi bod y Cynllun Gwên yn parhau i gael ei ddarparu i’r ysgol, ac y bydd y Bwrdd Iechyd nawr yn cael uned ddeintyddol symudol newydd. Tynnodd sylw at argaeledd gwasanaethau deintyddol cymunedol eraill yng Nghorwen a Dolgellau a bod y Bwrdd Iechyd yn bwriadu, yn yr hirdymor, agor dwy ddeintyddfa yng Nghanolfan Iechyd Corwen ar gyfer oedolion a phlant o’r ardal leol.

Cefndir

Gall gwasanaethau deintyddol cymunedol gael eu darparu gan unedau deintyddol symudol yn ogystal ag mewn clinigau sefydlog. Mae unedau symudol yn chwarae rôl allweddol o ran darparu gofal ataliol a thriniaeth i blant ysgol o dan y Cynllun Gwên.

Yn ôl bob sôn, cafodd uned ddeintyddol symudol Corwen ei dirwyn i ben yn ystod haf 2016 gan fod y cerbyd yn anaddas i'w ddefnyddio. Yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Chwefror 2017, dywedodd Prif Weinidog Cymru fod y Bwrdd Iechyd yn bwriadu ailgychwyn y gwasanaeth, a bod darpariaeth amgen ar waith yn y cyfamser. Cyfeiriodd at y Cynllun Gwên, a'i effaith ar wella iechyd y geg plant (roedd y llythyr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr hefyd yn tynnu sylw at rôl y Cynllun Gwên).

Y Cynllun Gwên

Rhaglen iechyd y geg sy'n canolbwyntio ar blant, wedi'i sefydlu gan Lywodraeth Cymru, yw'r Cynllun Gwên. Fe'i lansiwyd yn wreiddiol fel cynllun peilot tair blynedd mewn ardaloedd yng ngogledd a de Cymru ym mis Ionawr 2009; cafodd y rhaglen ei gwella a'i hehangu ym mis Hydref 2009 i gwmpasu Cymru gyfan. Nod y rhaglen yw lleihau anghydraddoldebau iechyd y geg, ac mae wedi'i thargedu at blant yng Nghymru sydd â'r angen iechyd y geg mwyaf. Mae dull ataliol y Cynllun Gwên yn targedu plant o enedigaeth drwy gyfnod yr ysgol gynradd ac mae'n cynnwys darparu cyngor iechyd y geg, brwsys dannedd a phast, brwsio dan oruchwyliaeth a rhaglenni farnais fflworid a selio tyllau (yn dibynnu ar oedran y plentyn).

Mae'r arolwg deintyddol diweddaraf ar gyfer plant 5 oed (ar gyfer 2014/15) yn dangos gostyngiad parhaus mewn pydredd dannedd ymhlith plant yng Nghymru, a bod iechyd deintyddol yn gwella ar draws yr holl grwpiau cymdeithasol.  

Early data analyses suggest that dmft [average number of decayed, missing and filled teeth] in children attending Designed to Smile schools is improving. When five year olds survey results for 2015/16 are available the full impact of Designed to Smile should be emerging.

Rhagor o wybodaeth

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cynllun Lleol Iechyd y Geg 2013-2018

Proffiliau iechyd y geg y Bwrdd Iechyd Lleol 2014: Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr